Nod ac Amcanion

  1. Home
  2. /
  3. Nod ac Amcanion

Nod sylfaenol y Gynghrair Geltaidd yw cyfrannu, fel mudiad rhyngwladol, at ymdrechion y chwe gwlad Geltaidd i sicrhau neu ennill eu rhyddid gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn cynnwys:

Datblygu cydweithrediad rhwng y bobl Celtaidd.
• Datblygu ymwybyddiaeth o’r berthynas arbennig a’r undod sydd rhyngddynt.
• Codi ymwybyddiaeth dramor o’n hymdrechion a’n llwyddiannau
cenedlaethol.
• Ymgyrchu dros gymdeithas ffurfiol ar gyfer y gwledydd Celtaidd, i weithredu unwaith bod dau neu fwy gwlad wedi ennill hunanlywodraeth.
• Cefnogi’r syniad o ddefnyddio adnoddau cenedlaethol pob gwlad Geltaidd er lles holl bobl y gwledydd hynny. 

https://archive.org/details/SunOp-CelticLeague

Swyddogaeth y Gynghrair Geltaidd yn ein hymdrechion Cenedlaethol

S

Ar lefel fewnol, swyddogaeth eilaidd sydd gan y Gynghrair Geltaidd o’i gymharu â rol y mudiadau cenedlaethol, sy’n gweithio i ailadeiladu ein cenhedloedd i fod yn gymunedau hollol integredig. Ar lefel rhyng-Geltaidd dylem hyrwyddo teithiau cyfnewid a hwyluso adnabyddiaeth pobl o wahanol wledydd Celtaidd gyda’i gilydd er mwyn cryfhau ein hundod. Ar lefel allanol, dylem hysbysu pobl eraill fod y Celtiaid yn benderfynol o ddatgan eu cenedligrwydd a bod ganddynt gyfraniadau gwreiddiol i’w gwneud tuag at greu perthynas fwy boddhaol rhwng unigolion a Chenhedloedd. Rydym yn ddi-
enwadol.

Mae gan pob cenedl Geltaidd ei hanes ei hun felly ni allwn ddisgwyl unffurfiaeth yn ein ffordd o feddwl ond yn hytrach ganiatáu amrywiaeth o syniadau o fewn y Gynghrair Geltaidd. Yn y ffordd yma, efallai y gallwn adnabod mannau posibl ar gyfer cydweithio ac yn y pen draw ffurfio polisi cyffredin manwl. Gyda hyn gallwn benderfynu sut fath o berthynas rhwng ein cymunedau fydd yn eu galluogi i fwynhau rhyddid ar lefel bersonol a chymunedol.